neu y Cyfamod hwnw yn ysgrifenedig. Gelwir. ef Bibl, neu Lyfr, oddiwrth y gair Groeg, Biblos, ac y mae ei bwysigrwydd yn teilyngu iddo yr anrhydedd o'i alw, Y LLYFR.
Moses, "gwâs yr Arglwydd," oedd awdwr ysprydoledig y llyfr cyntaf yn y Bibl; ac Ioan, apostol Iesu Grist, oedd awdwr ysprydoledig y llyfr diweddaf, geiriau olaf yr hwn sydd yn glo ar Lyfr Duw. Ac er fod mwy na phumtheg cant o flynyddoedd rhwng amser Moses ac Ioan, a bod degau o awdwyr gwahanol, mewn gwahanol wledydd, oesau, ac amgylchiadau, wedi bod yn ysgrifenu rhannau o'r Llyfr yn y cyfwng hwn, eto y mae perffaith unoliaeth, mewn athrawiaeth ac amcan, yn rhedeg trwy yr oll.
Mae y Bibl yn lyfr y byd. Nid llyfr cenedl, nac oes, na gwlad, ond llyfr dynoliaeth. Mae yn wir ei fod, ar un olwg, yn lyfr cenedlaethol; yn llawn o nodweddion Iuddewig. Ond, ar yr un pryd, y mae yn lyfr cyffredinol—yn lyfr yr holl fyd, yn fwy felly na'r un llyfr a ysgrifenwyd erioed. Nid yw amgylchiadau gwledydd na threigliad amser yn effeithio dim ar gymhwysder ei wirioneddau. Y mae mor gymhwys i Gymry y bedwaredd-ganrif-ar-bumtheg ag ydoedd i Iuddewon Palestina filoedd o flynyddoedd yn ol.