Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/12

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Nodwedd arbenig arall yn Llyfr yr Arglwydd ydyw, ei fod mor gyfieithadwy.

Er mai llyfr wedi ei gyfieithu ydyw y Bibl Cymraeg (fel Bibl pob cenedl heddyw), eto mae ei Gymraeg yn safon yr iaith. Deallwn hefyd ei fod felly yn mysg cenedloedd yn gyffredin. Pa lyfr mor Gymreigaidd a'r Bibl Cymraeg? Ac am ba gyfieithiad arall y gellid dywedyd hyn?

Llyfr y llyfrau yw y Bibl. Duw yw ei Awdwr; gwirionedd yw ei gynwys; ac iachawdwriaeth ᎩᎳ ei amcan. "Rhoddwch i mi y Llyfr," meddai Syr Walter Scott, ar ei wely angau. "Pa lyfr?" gofynai ei wâs, heb ddeall am ba gyfrol yr oedd yn galw. "Paham y gofynwch hyny?" ebe yntau," nid oes ond un!"

Nis gellir hysbysu amcan y Bibl yn well na dyweyd mai datguddiad ydyw o'r Duw mawr yn Nghrist Iesu, yn cymodi y byd ag ef ei hun. Dyma amcan yr holl Fibl, yr Hên Destament yn gystal a'r Newydd. Mae yr Hên Destament yn dechreu gyda hanes dyfodiad pechod i'r byd, ac addewid am Grist i waredu oddiwrtho; a'r Newydd yn dechreu gyda hanes genedigaeth y Crist hwnw. Cysgod o hono Ef ydoedd Moses; gwelodd Abraham ei ddydd ; canodd Dafydd am dano; a hysbyswyd Ef gan yr holl brophwydi. "Duw, wedi iddo