Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

lefaru lawer gwaith a llawer modd, gynt wrth y tadau trwy y prophwydi, yn y dyddiau diweddaf hyn a lefarodd wrthym ni yn ei Fab."

PENNOD II.

CASGLIAD LLYFRAU Y BIBL.

I'R Iuddewon yr "ymddiriedwyd am ymadroddion Duw." Ond yr oedd gofal uwch na gofal dynion yn gwylio dros eu cadwraeth. Gofalodd rhagluniaeth y nefoedd yn rhyfedd am danynt trwy holl chwyldroadau y genedl Iuddewig; ac o'u dwylaw hwynt y derbyniwyd y trysor gwerthfawr gan yr holl genedloedd.

Wedi i Moses orphen ei ysgrifeniadau rhoddodd hwynt i'r offeiriaid, meibion Lefi, i'w gosod mewn cadwraeth ar ystlys arch y cyfamod (Deut. xxxi. 9, 26). Yn niwedd Llyfr Josua dywedir iddo yntau "ysgrifenu y geiriau hyn yn llyfr cyfraith Duw" (Jos. xxiv. 26). Yn mhellach yn mlaen eilwaith, cawn Samuel yn ysgrifenu mewn llyfr, "ac yn ei osod gerbron yr Arglwydd" (1 Sam. x. 25). Yn hir ar ol hyn, dywedir i Hilciah, yr archoffeiriad, “gael llyfr y gyfraith yn nhŷ yr Arglwydd" (2 Bren. xxii. 8). Dywed Esaiah, "Ceisiwch allan o lyfr yr Arglwydd, a darllenwch " (Esai. xxxiv.