Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

16). A dywed Daniel mai wrth y llyfrau y deallai amser caethiwed y genedl.

Mae traddodiad yr Iuddewon yn dywedyd i lyfrau yr Hên Destament gael eu gorphen a'u casglu yn nghyd gan Ezra, "yr hwn a barotoisai ei galon i geisio cyfraith yr Arglwydd, ac i'w gwneuthur, ac i ddysgu yn Israel ddeddfau a barnedigaethau; ac efe oedd ysgrifenydd cyflym yn nghyfraith Moses, ac yr ydoedd llaw yr Arglwydd ei Dduw arno ef" (Ezra vii. 6, 10). Cynorthwyid ef yn y gorchwyl pwysig hwn gan Haggai, Zechariah, Nehemiah, a Malachi. Fel hyn y cadwyd ac y casglwyd yn nghyd ganon, neu lyfrau ysprydoledig yr Hên Destament. Cydnabyddai yr Eglwys Iuddewig hwy fel y cyfryw; a rhoddodd Iesu Grist ei hun sêl awdurdod ddwyfol arnynt"Y Gyfraith, a'r Prophwydi, a'r Salmau". trwy eu cydnabod, yn wir, yn Air Duw.

Mae genym fwy o sicrwydd am awdwyr llyfrau y TESTAMENT NEWYDD, ond llai o hysbysrwydd am y rhai a'u casglodd yn nghyd yn un llyfr.

Ymddengys mai y gyfran gyntaf o'r Testament Newydd a ysgrifenwyd ydoedd llythyr yr Eglwys yn Jerusalem at yr Eglwys yn Antiochia (Act. xv. 23-29). Yn fuan ar ol hyn dechreuodd Paul ysgrifenu ei lythyrau. A thra yr oedd Paul yn defnyddio pob hamdden