Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a gai i ysgrifenu at eglwysi, a phersonau unigol, yr oedd Matthew, Marc, a Luc wrthi yn ysgrifenu yr Efengylau, a'r ddau olaf, fel y bernir, dan gyfarwyddyd Pedr a Paul. Tua'r un amser yr oedd Iago, Pedr, a Judas yn ysgrifenu eu hepistolau. Bernir fod yr oll o'r Testament Newydd wedi ei orphen ar adeg marwolaeth Pedr, oddigerth ysgrifeniadau Ioan—yr epistolau, yr Efengyl, a'r Datguddiad.

Nid oes sail i dybied fod unrhyw fwriad i gasglu yr ysgrifeniadau hyn yn nghyd ar yr amser yr ysgrifenwyd hwynt, gan eu hawdwyr na neb arall. Am beth amser buont yn aros yn berchenogaeth i'r rhai yr ysgrifenwyd hwynt atynt. Nid oedd yr un eglwys yn meddu ar fwy na dau o'r llyfrau hyn, a'r rhan fwyaf heb yr un. Am y pedair Efengyl, tebygol fod un o honynt yn Rhufain; un yn Neheudir Itali; un arall yn Palestina; a'r llall yn Asia Leiaf. Yr oedd yr unig gopi o Lyfr yr Actau, gydag Efengyl Luc, yn meddiant y Theophilus hwnw. O'r un epistol ar ugain, yr oedd pump yn Groeg a Macedonia; pump yn Asia Leiaf; un yn Rhufain; a'r lleill yn nwylaw personau unigol. Ni anfonwyd y Datguddiad, mae'n debygol, ond i eglwysi Asia.

Yr oedd yr holl lyfrau hyn, os nad wedi eu hysgrifenu gan yr Apostolion, wedi derbyn eu