Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hawdurdod uniongyrchol. Ac fel yr oedd yr Apostolion yn marw, teimlid anghen am ychwaneg o gopiau o'u hysgrifeniadau. Cyn hir casglwyd yr Efengylau yn nghyd. Casglwyd hefyd yn raddol yr Epistolau. Detholwyd yn ofalus y llyfrau awdurdodedig oddiwrth lawer o efengylau ac epistolau diawdurdod oeddent wedi eu hysgrifenu. Ac erbyn oddeutu diwedd y bedwaredd ganrif yr oedd yr oll o'r Testament Newydd, fel y mae yn awr genym ni, wedi ei gasglu yn un llyfr, a'i dderbyn gan yr holl Eglwysi yn ysgrythyrau dwyfol, fel yr Hên Destament.

PENNOD III.

CYMRU CYN CAEL BIBL ARGRAPHEDIG.

CAFODD Cymru ei breintio â'r Efengyl yn fore. Tybia llawer i Joseph o Arimathea fod yn y wlad hon yn pregethu. Dywedir hefyd mai Lucius (Lles ap Coel), Brenin y Brytaniaid, oedd y brenin Cristionogol cyntaf yn yr holl fyd; ac iddo anfon at Eleutherius, Esgob Rhufain, i ddymuno arno anfon dysgawdwyr Cristionogol i Brydain, fel y gallai ei ddeiliaid