Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

glywed y newyddion da o lawenydd mawr am y Ceidwad—Crist yr Arglwydd.

Mewn atebiad i'r cais, anfonwyd Dyfan a Ffagan yma, yn y flwyddyn 180. Tua dau gant a haner o flynyddau wedi hyn (430) daeth Garmon a Lupus yma, o Ffrainc, i wrthwynebu cyfeiliornadau Pelagius. Yn 540 daeth Awstin Fynach drosodd i Loegr. Daliodd yr Efengyl ei thir yn rhyfeddol o dda yn Nghymru hyd y ddeuddegfed ganrif, pan osodwyd iau haiarn Pabyddiaeth arni, ac yr amddifadwyd hi o'i llyfrau. Gwnaed cyfraith yn y flwyddyn 1400, gan Harri IV., i atal i un Cymro ddysgu ar lyfr, a chadwyd hi mewn grym am ddigon o amser i'r wlad golli ei chwaeth at ddarllen, fel y bu argraphu yn y byd yn hir heb i'r Cymry fod yn well o hyny.

Mae profion diammheuol fod rhanau o'r Bibl, os nad yr holl Fibl, gan y Cymry, mewn ysgrif-lyfrau yn ystod y cyfnod hwn. Cyfieithodd TALIESIN, bardd enwog o ymyl Llanrwst, yr hwn oedd yn ei flodau ei flodau yn 540, pan ddaeth Awstin Fynach i Brydain, ranau o'r Bibl. Math o arall-eiriad barddonol ydoedd o "Ddeg pla poeni yr Aipht," "Llath Foesen," neu wialen Moses, ac ychydig am Dduw a Christ.

Cyfieithwyd rhanau o'r Bibl hefyd gan DAFYDD DDU o Hiraddug, bardd cyfrifol arall