oedd yn ei flodau oddeutu 1349. Mae ei waith ef yn cynwys rhan fawr o'r Salmau, rhan o'r bennod gyntaf o Efengyl Luc, cân Zacharias, cyfarchiad i Mair gan yr angel, cân y tri llanc, a chân Simeon. Arall-eiriad barddonol, neu ar gynghanedd, yw ei waith yntau. Dyma siampl o'r cyfieithiad, o gyfarchiad yr angel Gabriel i Mair :
"Gabriel a anfoned yn gennad y gan Dduw i ddinas yn Galilea, yr hwn a elwir Nassareth, i briodi morwyn â gwr a elwid Joseph, o lwyth Dafydd. Ac enw y forwyn oedd Mair. A phan ddaeth yr angel i mewyn attai y dywawd ef, Hanffych gwell Fair gyflawn o rad Duw gyda thi bendigaid yngyfrwng y gwragedd. A phan erglw Fair hyny, cynhyrfu a wnaeth, a meddyliaw pa ryw gyfarch oedd honna.
"A dywedyd a oryg yr angel wrthi nac ofnha, Fair, canys ti a gefaist rad y gan Dduw, ti a ymddygu feichiogi i'th groth ac essgory ar fab, a elwy ei enw Iesu, a hwnw a fydd gwr mawr, a Mab y gelwir i'r Goruchaf, ac efe a rydd yr Arglwydd Dduw iddaw esteddfa Dafydd ei Dad."
Nid oedd yr ysgrifau hyn i'w cael ond yn llyfrgelloedd y cywrain a'r dysgedig hyd y flwyddyn 1801, pryd y casglwyd ac y cyhoeddwyd y cyfan yn yr Archæology of Wales,