Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

trwy lafur Owen Jones (Owain Myfyr), Dr. Owain Pughe, ac Edward Williams (Iolo Morganwg).

Mae yn ddiau fod rhanau eraill o'r Bibl yn Gymraeg yn ystod y cyfnod a nodwyd. Gwelodd Dr. Richard Davies, Esgob Tyddewi, pan yn llanc, Bum' Llyfr Moses yn Gymraeg, mewn ysgrifen, yn nhŷ ewythr iddo, yr hwn oedd ŵr dysgedig. Yr oedd hyny tua chanol teyrnasiad Harri VIII. (oddeutu 1527). Barna rhai y gallai hwnw fod wedi ei gyfieithu gan William Tyndal, yr hwn oedd frodor o Gymru, a'r Protestant a gyfieithodd y Bibl gyntaf i'r iaith Saesneg, ac a ddyoddefodd ferthyrdod yn wobr am y gorchwyl. Dywed Esgob Davies, yn ei lythyr argraphedig gyda Thestament William Salesbury:—

"Yn lle gwir, ni ffynodd genifi erioet gael gwelet y Bibl yn Gymraeg: eithr pan oeddwn fachcen, cof yw cenyf welet Pump Lyfr Moysen yn Gymraeg, o fewn tu yewythr ym' oedd wr dysgedig; ond nid doedd neb yn ystyr y llyfr nac yn prisio arno. Peth ammheus ydiw (ir a wnni) a ellir gwelet yn oll Cymru un hên Fibl yn Gymraeg i'r penn golledwyt ac y speiliwyt y Cymry oy holl lyfrau. Eithr diemmay yw cenyf fot cyn hynny y Bibl yn ddigon cyffredin yn Gymraeg. Perffeith-