Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rwydd ffydd y Merthyron, eglwyswyr a llëigion, sydd brawf fod yr Ysgrythyr Lân cenddynt yn i iaith eu hunan.—Hefyd, y mae cenym ni yn Gymraeg amryw ymadroddion a diarhebion, yn aros fyth mewn arfer, a dynwyt o berfedd yr Ysgrythyr Lân ac o ganol Efengyl Crist. Yr hyn sydd brofedigaeth ddigonawl fot yr Ysgrythyr Lân yn mhen pob bath ar ddyn, pan y dechreuwyt hwynt, a phan y dygwyt i arfer gyffredinawl: megis, A Dvvw a digon; heb Ddvvw heb ddim,—A gair Dvvw yn uchaf,—y Map rhâd,—Ni lafar, ni weddia, nid teilwng iddo ei fara,—Eglwys pawb yn ei galon,—Cyn wired a'r Efengyl,Pan nad oedd rhyfedd na thyf post aur trwy nen ty yr anwir,—Drwg y ceidw diawl ei wâs,—I Ddvvw y diolchwn gael bwyt, a gallu ei fwyta,—Rhad Dvvw ar y gwaith; ac eraill o'r fath hyn. Y mae llawer o enwau arferedig gynt yn mhlith y Cymry yn brawf ychwanegol o hyny; megis Abraham, Esgob Mynyw; Adda Frâs, un o'r beirdd; Aaron, un o benaethiaid Gwlad Forgan; Asaph, Esgob Llanelwy; Daniel, yr Esgob cyntaf yn Bangor; Iago ab Idwal; Joseph, Esgob Mynyw; Samuel Benlan, offeiriad dysgedig; Samson, y chweched Esgob ar ugain, a'r diweddaf, yn Mynyw; a'r cyfryw eraill a goffeir yn fynych yn yr