Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hên achau. Y mae hyn yn dangos fot yr Ysgrythyr Lân yn wybodedic iawn gan ein hynafieit gynt. Y mae prydyddiaeth Taliesin, ben-beirdd, yn gwiriaw yr un peth, yr hwn oedd yn byw yn amser Maelgwn Gwynedd, yn y chweched ganrif."

Mae penill cyfarwydd Taliesin fel hyn:

"Gwae'r offeiriad byd,
Nys anghreifftia[1] gwyd,[2]
Ac ny phregetha;
Gwae ny cheidw ei gail,
Ac ef yn fugail,
Ac ny areilia;
Gwae ny cheidw ei ddefaid,
Rhag bleiddiau 'r Rhufeiniaid,
A'i ffon gnwpa."

Mae y tystiolaethau hyn yn brofion eglur fod y Bibl, neu ranau helaeth o hono, mewn ysgriflyfrau, yn meddiant ein hynafiaid ni y Cymry yn fore iawn. Y tebygolrwydd yw iddynt eu colli trwy erledigaethau a rhyfeloedd gymerodd yn y cyfnod rhwng y chweched a'r bumthegfed ganrif.

Y darnau cyntaf o'r Bibl a argraphwyd erioed yn Gymraeg ydoedd mewn llyfr bychan Cymraeg, pedwar-plyg, a gyhoeddwyd yn Llundain yn y flwyddyn 1546. Hwn yn wir oedd y llyfr cyntaf a argraphwyd erioed yn yr

  1. Cherydda.
  2. Bai