Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iaith Gymraeg, oddigerth mai Cymraeg ydoedd "Prymer" Salesbury, a argraphwyd yn 1531. Ond nid oes sicrwydd yn mha iaith oedd hwn. Teitl y llyfr Cymraeg a nodwyd ydoedd,

"BEIBL. Yn y Llyvyr hwn[1] y Traethyr Gwyddor Kymraeg. Kalendyr. Y Gredo, neu bynkey yr ffydd Gatholig. Y Pader neu Weddi yr Arglwydd. Y deng air Deddyf. Saith rinwedd yr Eglwys Y Kampay arveradwy, a'r Gweddiau Gocheladwy Keingen."

Nid oedd ond math o almanac, a bernir fod gan Syr John Price, o'r Priordy, Aberhonddu, law yn ei awduriaeth. Gosodwyd y "Beibl" mewn llythyrenau mawrion ar ben y ddalen gyntaf, er mwyn galw sylw, am fod y Bibl y pryd hwnw yn ddyeithr iawn yn Nghymru, a bod y rhanau o'r Bibl a nodir yn y teitl uchod ynddo.

Tystiai Iolo Morganwg wrth Dr. Malkin fod un Thomas Llewelyn, Glyn Eithinog, o'r Rhigos, gerllaw Glyn Nedd, Morganwg, yr hwn oedd fardd enwog a Phrotestant o ddysg a duwioldeb neillduol, ac yn byw yn amser Edward VI. a Mari ac Elisabeth—fod y gwr hwn, wedi cyfieithu y Bibl i Gymraeg da, o gyfieithiad Seisonig William Tyndal, odddeutu y flwyddyn 1540. Myn rhai fod

  1. Er nad oes enw awdur ar y llyfr y gred gyffredinol ymysg ysgolheigion bellach yw mai Syr John Prys oedd yr awdur nid William Salesbury