cyfieithwyr y Bibl presenol wedi gwneyd defnydd o gyfieithiad Llewelyn; ond y mae eraill yn gwrthddywedyd.
Dywed Ioan Tegid, yn ei ddarlith ar "Fedd Gwr Duw," i hên gyfieithiad o'r pedair Efengyl, yn un llyfr, fod yn llyfrgell Eglwys Gadeiriol Llanelwy am oesoedd. Cyfrifid ef yn gyfieithiad hên yn y flwyddyn 1282, fel y gellir gweled oddiwrth lythyr nodded a braint Archesgob Caergaint y flwyddyn hono, yn caniatau i offeiriaid yn perthyn i eglwys Llanelwy y rhyddid i gario y darn hwnw o'r Testament Newydd o amgylch y wlad, er mwyn ei ddangos i'r neb a chwenychai ei weled. Yr oedd y llythyr hwnw wedi ei ysgrifenu yn Lladin; wedi ei Gymreigio darllena fel hyn :
Cylch-lythyr Ioan, Archesgob Canterbury, yn caniatau i Ganonwyr Llanelwy, yn Nghymru, i gariaw oddiamgylch yr Ysgrythyrau.
"Y Brawd Ioan, &c., i'r holl offeiriaid, yn gystal ag i'r gwyr lleyg, yn Esgobaethau Coventry, Lichfield, Henffordd, a'r holl Esgobaethau Cymreig, iechyd, a thangnefedd tragywyddawl yn yr Arglwydd. Y llyfr neu eiriau yr Efengylau yn perthyn i Eglwys