Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Llanelwy, a elwir yn gyffredin wrth yr enw ENEGLTHEN, yr hwn sydd, fel y deallasom, mewn cyfrif mawr a pharch gan drigolion o bob gradd yn mharthau Cymru a'r cyffiniau; ac am fwy o resymau nag un, a gludir ar droion yn barchus o amgylch y wlad, fel yn beth sanctaidd, gan offeiriaid yn perthyn i'r eglwys a enwyd uchod. Nyni, gan hyny, yn cael ein tueddu i gymeradwyo y cyfryw arferiad a ddymunem i chwi dalu pob anrhydedd i'r llyfr ac i'r personau, y rhai a ddarlunir yma, sydd yn ei ddwyn ef oddi amgylch, gan ddeisyfu arnoch, er mwyn y parch sydd genych i Grist, yr Hwn yw Awdwr yr Efengylau, i ganiatau i'r offeiriaid y soniwn am danynt, ymdaith yn eich plith, gyda'r llyfr [dywededig, ac iddynt allu llawenhau oblegyd ddarfod iddynt hwy gael diogelwch a llonyddwch yn eu mynediad, eu hansawdd, ac yn eu dychweliad yn ol.

"Rhoddwyd o dan ein llaw, yn Lambeth, Gorphenaf 14eg, o flwyddyn ein Harglwydd 1282."