Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr oedd y cyfieithiad uchod yn Llanelwy hyd amser yr Esgob Goldwell, rhagflaenydd Richard Davies. Collodd Goldwell yr esgobaeth ar esgyniad Elisabeth i'r orsedd, am na throai yn Brotestant. Aeth i Rufain, lle y bu farw. Bernir iddo gymeryd hên ysgriflyfr yr Efengylau yno gydag ef, ac y gallai ei fod yn aros eto yn mysg trysorau y Vatican. Pa fodd bynag, nid oedd yn Llanelwy yn amser yr esgob dylynol—Richard Davies—onide, buasai yn sicr o fod wedi crybwyll am dano.

PENNOD IV.

Y TESTAMENT CYMRAEG PRINTIEDIG CYNTAF—
TESTAMENT SALESBURY.

DYGODD y diwygiad oddiwrth Babyddiaeth, yn yr unfed ganrif ar bumtheg, lawer fendithion i Brydain Fawr, ac nid y lleiaf o honynt oedd lledaeniad yr Ysgrythyrau Sanctaidd dros y wlad yn iaith y bobl. Yr ydoedd hyn yn ddechreuad cyfnod newydd a bendigedig.

Dyma y pryd y cafodd y Saeson eu Bibl. Yr oedd Wickliff wedi cyfieithu y Bibl i'r iaith Saesneg mor fore a'r flwyddyn 1380; ond y cyfieithiad printiedig cyntaf ydoedd un William Tyndal. Argraphwyd y Testament. Newydd yn 1526, a'r Hen Destament yn 1532. Cafodd ef ei ddienyddio, yn wobr am ei