wasanaeth. Diwygiwyd ei gyfieithiad gan Coverdale a'r Archesgob Cranmer. Yn 1603 apwyntiodd y Brenin Iago 54ain o ddynion dysgedig i arolygu a diwygio y cyfieithiad. Bu 47ain o honynt wrthi am flynyddoedd; ac yn y flwyddyn 1611 y cyhoeddwyd y Bibl Seisnig" Awdurdodedig."
Yn y flwyddyn 1562 neu 1563 penderfynwyd, trwy weithred Seneddol,—
"Fod y Bibl, yn cynwys yr Hên Destament a'r Newydd, yn nghyd a Llyfr Gweddi Gyffredin, a Gweinyddiad y Sacramentau, i gael eu cyfieithu i iaith y Brython, neu y Gymraeg, a bod y gwaith i gael ei arolygu, ei ddefnyddio, a'i gydnabod gan Esgobion Llanelwy, Bangor, Tyddewi, Llandâf, a Henffordd, a'i arferyd yn yr eglwysi erbyn y laf o Fawrth 1566, dan ddirwy, os na chyflawnid, o ddeugain punt yr un ar yr esgobion.
"Fod un copi printiedig o leiaf o'r cyfieithiad hwn i fod ar gyfer ac yn mhob eglwys yn Nghymru, i gael ei ddarllen gan yr offeiriaid yn amser yr addoliad dwyfol, ac ar brydiau eraill, er lles ac arferiad y neb a hoffai fyned i'r eglwys i'r perwyl hwnw.
"Hyd oni byddo i'r cyfieithiad hwn o'r Bibl a'r Llyfr Gweddi Gyffredin gael ei orphen a'i gyhoeddi, fod yr offeiriaid yn Nghymru i