ddarllen, yn amser yr addoliad cyhoeddus, yr Epistolau, a'r Efengylwyr, Gweddi yr Arglwydd, Erthyglau y Ffydd Gristionogol, y Litani, a'r cyfryw ranau eraill o'r Llyfr Gweddi Gyffredin, yn yr iaith Gymraeg, ag a gymeradwyid gan yr esgobion a nodwyd uchod.
Fod, nid yn unig yn ystod y cyfwng hwn, ond dros byth wedi hyny, Fiblau a Llyfr Gweddi Gyffredin Seisnig i fod yn mhob eglwys a chapel eglwysig yn y wlad hono."
Ond er rhoddi awdurdod Seneddol wrth y gorchymyn, ymddengys mai ychydig o sylw dalodd yr esgobion i'r ddeddf hon, beth bynag oedd yr achos. Mae yn sicr nad oedd y ddirwy mor fawr ag i beri eu dychrynu at eu dyledswydd, er fod deugain punt yr amser hwnw yn llawer mwy nag ydyw heddyw. Ac y mae yn ddigon posibl y buasai cadw y gyfraith hono yn costio mwy o arian i bob un o'r esgobion na swm ei ddirwy. Ceisia rhai eu hamddiffyn trwy ddyweyd fod yr amser yn rhy fyr,—dim ond tair neu bedair blynedd, ac nad oedd y ddeddf yn pennodi ar ddynion i gyflawni y gwaith, nac ar gyflog iddynt am hyny.
Beth bynag, yn ganlyniad i'r ddeddf uchod, yn y flwyddyn 1567—blwyddyn yn hwy na'r amser a ordeiniwyd gan y Senedd—cyhoedd-