Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

odd William Salesbury ei gyfieithiad o'r Testament Newydd, mewn llyfr pedwar—plyg, yn cynwys 399 o du-dalenau—neu, yn hytrach, o ddalenau, gan nad oedd ond un tu i'r ddalen yn cael ei rhifnodi. Yr oedd wedi ei argraphu mewn llythyren ddu (flewog, fel y gelwir hi), ac wedi ei ddosbarthu yn llyfrau a phennodau, fel y mae genym ni yn bresenol. Yr oedd cynwysiad hefyd o flaen pob llyfr a phennod, ac eglurhâd geiriau tywyll ar ymyl y dail; ond nid oedd cyfeiriadau at adnodau eraill, am nad oedd ond ychydig o'r llyfrau olaf wedi eu rhanu yn adnodau. Yr oedd amryw wŷr dysgedig wedi cynorthwyo yn y cyfieithiad hwn. Cafodd Llyfr y Datguddiad ei gyfieithu gan "T. H. C. M.," fel y dengys ymyl y ddalen, sef Thomas Huet, Canghellwr Mynyw, neu Tyddewi. Cyfieithwyd yr Ail Epistol at Timotheus, yr Epistol at yr Hebreaid, Epistol Iago, a dau Epistol Pedr, gan "D. R. D. M.," sef Dr. Richard Davies, Menevensis, neu Esgob Tyddewi. Yr oedd y cwbl, heblaw hyn, wedi ei gyfieithu gan William. Salesbury. Ar ymyl y ddalen yn niwedd ail Thessaloniaid y mae y geiriau canlynol:

"O Lyver Cenedleth oll yd y van hyn, W. S.; ar Epistol iso D. R. D. M. ei trans-