Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/103

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Duw, arweiniodd ei feddwl at yr anghenrheidrwydd o foddion cyffelyb i ddysgu y! werin i ddarllen. Byddai yr ysgol-feistrit cyflogedig yn myned ar gylch, o bentref i bentref, er rhoddi mantais addysg i'r neb oedd yn sychedig am dano. Cafodd gynorthwy pwysig gan gefnogwyr cyfoethog, fel yn mhen deng mlynedd, yr oedd ei ysgolion yn rhifo 128, a nifer y rhai a ddysgwyd ynddynt yn 7595. Yn 1761 yr oedd yr ysgolion wedi chwyddo i 218, a nifer y rhai a ddysgwyd i ddarllen mewn un flwyddyn yn 10,000; a'r nifer a ddysgwyd mewn pedair-blynedd-arugain, yn ol adroddiad Mr. Jones ei hun, yn 150,212. Yr oeddent, wrth gwrs, i ddynion mewn oed yn gystal ag i blant. Ar ei farwolaeth gadawodd 70007. yn llaw ei ffrynd, Madam Bevan, tuagat gynaliaeth yr ysogolion hyn, a gadawodd y foneddiges haelfrydig hono 10,0007. ar ei hol, i'r un perwyl.

Cyhoeddodd Mr. Jones 24ain o'r pamphled a elwid "Welsh Piety," y cyntaf yn 1737, a'r olaf yn 1760. Math o adroddiad blynyddol ydoedd o weithrediadau yr ysgolion. Yr oedd ei lafur llwyddianus gyda'r ysgolion yn creu anghen mawr yn y wlad am Fiblau; a llwyddodd, fel yr awgrymwyd eisoes, i gael dau