Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/102

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

lleniad y Bibl a llyfrau duwinyddol, ac o'r cychwyn yn bregethwr call, difrifol, ac efengylaidd. Yn 1711 cafodd fywioliaeth Llandeilo-Abercowyn, ac yn 1716, cafodd ficeriaeth Llanddowror, â'r hwn le y mae ei enw wedi ei fyth gysylltu. Arferai hefyd wasanaethu Llanllwch, gerllaw Caerfyrddin. Yn perthyn i'r gynulleidfa hon oedd y foneddiges ieuanc, Bridget Vaughan, briododd wedi hyny ag Arthur Bevan, Ysw., o Lacharn, a'r hon a adnabyddir fel Madam Bevan, ac a fu o. gynorthwy mawr i Mr. Jones yn ei lafur i ddyrchafu ei genedl.

Bu Mr. Jones ar fwriad i fyned allan yn genadwr i India, dan y Gymdeithas er Lledaeniad yr Efengyl mewn Gwledydd Tramor; ond, yr oedd Rhagluniaeth wedi darparu maes eang iddo ef i'w weithio yn ei wlad ei hun, ac ymroddodd yntau at y gwaith pwysig gydag yspryd teilwng o'i Arglwydd.

Heblaw ei lafur dirfawr gyda'i bregethu poblogaidd a llwyddianus ar hyd a lled y wlad, yn 1730 cychwynodd ei Ysgolion Cylchynol enwog, y rhai a fuont o gymaint bendith i Gymru. Ei arferiad o gasglu ei gynulleidfa yn nghyd o flaen Sabboth y Cymundeb, i'w holi, a'u hegwyddori yn Ngair