Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/101

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Jones yn deall anghen a chwaeth y genedl yn llawer gwell, a chymerodd ei gynllun afael nerthol a llwyddianus. Un o brif weithredoedd caredigol Gouge ydoedd mynu argraphiad o'r Bibl Cymraeg yn 1678, yn cynwys wyth mil o nifer, ar bris mor rhesymol, i gyfarfod anghenion y wlad. Rhoddwyd mil o honynt yn rhad i'r tlodion, a gwerthid y lleill wedi eu rhwymo yn daclus am y pris isel o bedwar swllt. Er nad oedd ganddo ond cant a haner o bunau y flwyddyn ei hunan at fyw, yr oedd yn rhoddi dwy ran o dair o hyny at y gorchwylion a nodwyd. Fel hyn, rhoddodd y dyn duwiol a haelionus hwn y genedl Gymreig dan rwymedigaeth arbenig, a bydd ei goffadwriaeth yn felus a bendigedig.


VI. Griffith Jones.

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Griffith Jones, Llanddowror
ar Wicipedia

Ganed y Parch. Griffith Jones, o Landdowror, yn mhlwyf Cilrhedyn, Sir Gaerfyrddin, yn y flwyddyn 1683. Addysgwyd ef yn ysgol Ramadegol Caerfyrddin. Cafodd ei ordeinio i urdd diacon gan Esgob Bull yn 1708, ac i gyflawn urddau y flwyddyn ganlynol. Yr oedd yn meddu ar gyneddfau a doniau naturiol rhagorol, wedi ei enill at grefydd trwy ddar