Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/100

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y cafodd o hyd i faes newydd i'w lafur a'i haelfrydedd.

Nid oes gwybodaeth beth drodd sylw Gouge at Gymru; ond tebygol ydyw iddo. ddyfod i gyffyrddiad â Stephen Hughes-neu Charles Edwards, neu rai o'r Cymru oedd yn mynychu Llundain i'r diben o gael Biblau a llyfrau at wasanaeth y Dywysogaeth. Dechreuodd ei lafur cariadus at Gymru tua 'r flwyddyn 1670, ac erbyn 1674, yr oedd ei gynllun wedi ei gyflawni; a pharhaodd yn ddiball yn ei ymdrechion hyd ei farwolaeth, Hydref 29ain, 1681, pan oedd yn ei 77ain mlwydd oed. Yr oedd ei lafur yn gynwysedig mewn codi ysgolion yn Nghymru i ddysgu darllen Saesneg a Chymraeg, pregethu ar ei ymweliadau, a chael llyfrau Saesneg wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg, a'u gwasgar yn mysg y bobl. Efe fu yn foddion i gael "Holl Ddyledswydd Dyn," "Yr Ymarfer o Dduwioldeb," a llawer eraill o lyfrau i'r iaith Gymraeg, a'u gwasgar ar ei draul ei hun. Dywedir ei fod yn cynal rhai canoedd o ysgolion, trwy holl brif drefi Cymru, a daliodd yn mlaen gyda hwy hyd ei farwolaeth; ond gan mai ysgolion i ddysgu Saesneg oeddent gan mwyaf, diflanasant yn fuan wedi i Gouge farw. Yr oedd Griffith