ei garu yn fawr. Gelwid ef yn "Apostol Sîr Gaerfyrddin." Ond yr oedd ganddo elynion, a thaflwyd ef unwaith i garchar Caerfyrddin. Bu farw mewn tangnefedd yn Abertawy, yn 1688, pan oddeutu 65 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn Eglwys Ifan; ond ni osodwyd gwyddfaen i gadw y llanerch mewn coffadwriaeth.
V. Thomas Gouge.
Nid Cymro oedd Gouge; ond y mae yr hyn a wnaeth i Gymru yn haeddu parch ac edmygiad y genedl. Ganwyd ef yn ninas Llundain, Medi 19eg, 1605, a chafodd ei addysgu yn Eton a Chaergrawnt. Yr oedd yn fab i Dr. William Gouge, Blackfriars. Wedi gorphen ei addysg, a chymeryd y gradd o M.A., ymsefydlodd yn Colsden, gerllaw Croydon, yn Surrey. Yn 1638, symudodd i eglwys St. Sepulchre, Llundain, lle y bu yn gwasanaethu ei swydd bwysig gydag ymroddiad canmoladwy am 24ain o flynyddau. Yr oedd nid yn unig yn ffyddlon a llafurus yn y pwlpud, ond yr oedd yn ddiflino yn ei lafur i ymweled â'r cleifion a'r tlodion, a chyfranu yn helaeth at eu hanghenion. Torodd deddf Unffurfiaeth ef allan o'r Eglwys yn 1662; ond buan