offeiriad duwiol hwn. Mae yn chwithig iawn, os nid yn waradwydd ar Gymru, ei bod wedi gadael y fath ddyn heb un Bywgraphiad. Dywed Williams, yn ei Farwnad:
Dacw'r Biblau têg a hyfryd,
Ddeg-ar-ugain filoedd llawn,
Wedi 'u trefnu i ddod allan
Trwy ei ddwylaw 'n rhyfedd iawn ;
Dau argraphiad glân ddiwygiad,
Llawn, ac isel bris i'r gwan;
Mewn cabanau fe geir Biblau
'N awr gan dlodion yn y man.
Hi Ragluniaeth ddyrus helaeth,
Wna bob peth yn gydsain lawn;
D'wed nad gwiw argraphu Biblau
Heb eu darllen hwy yn iawn;
Daeth yn union ag ysgolion
O Werddon fôr i Hafren draw;
Rhwng y defaid mae'r bugeiliaid
'Nawr â'r 'Sgrythyr yn eu llaw.”
Wedi gwasanaethu ei genedl yn ol ewyllys Duw, gyda ffyddlondeb a llwyddiant mawr, efe a hunodd yn yr Arglwydd, yn nhŷ ei ffrynd, Madam Bevan, yn Llacharn, Ebrill 8fed, 1761, yn 77ain mlwydd oed, a chladdwyd ef yn Llanddowror.