Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/106

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

VII. Peter Williams.

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Peter Williams
ar Wicipedia

Nid oes un enw yn fwy hysbys yn y Dywysog aeth nag enw Peter Williams; oblegid y mae "Bibl Peter Williams" yn llyfr a brawddeg gartrefol i ni oll. Ganwyd ef gerllaw Llacharn, yn Sir Gaerfyrddin, Ionawr 7fed, 1722. Yr oedd éi rieni yn gyfrifol, a'i fam o nodweddiad tra chrefyddol, dan weinidogaeth y Parch. Griffith Jones, Llanddowror. Bu ei dad a'i fam farw pan oedd Peter oddeutu 12 oed; ond gadawodd addysg grefyddol ei fam argraff annileadwy ar feddwl y plentyn. Dygwyd ef i fyny gan ewythr iddo o du ei fam. Yr oedd ynddo awydd er yn blentyn at y weinidogaeth, a throai ei holl fryd at lyfrau.

Pan yn 17 oed, gosodwyd ef mewn ysgol eglwysig yn Nghaerfyrddin, yr hon oedd ar y pryd dan lywyddiad y Parch. T. Einion, lle y parhäodd am dair blynedd. Yn y cyfamser, daeth Whitfield i Gaerfyrddin i bregethu; ac er i'r athraw rybuddio yr efrydwyr nad elent i'w wrando, aeth Peter a thri ereill yn llechwraidd i wrando y gŵr dyeithr. Y bregeth hono fu yn foddion tröedigaeth iddo. Aeth i'w lety y noson hono yn ddyn arall. Daeth y peth yn hysbys, trwy yr holl ysgol, a thrôdd ei gyd