Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/107

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

efrydwyr o hyny allan i'w ddirmygu.. "Yr oeddwn bellach," meddai, "yn Fethodist; ac yn eu cyfrif hwy, digon oedd hyny i roddi anfri tragywyddol arnaf."

Symudodd o Gaerfyrddin, pan oddeutu 21 oed, i gadw ysgol yn Cynwil. Yn 1745 cafodd ei urddo gan yr esgob i swydd diacon, a chafodd guradiaeth Eglwys Gymun, gerllaw Llacharn. Ond aeth yn rhy weithgar ei fywyd, ac efengylaidd ei athrawiaeth, i gael ei oddef yno yn hir. Yr oedd yntau, fel y Methodistiaid eraill, "yn pregethu y pechod gwreiddiol, cyfiawnhâd trwy ffydd, ac ail enedigaeth." Cyhuddid ef hefyd o bregethu mewn plwyfi eraill; ac am ei holl bechodau, gwaharddodd yr esgob iddo bregethu am dair blynedd.

Wedi hyn daeth i Abertawy, i wasanaethu dwy eglwys—un Gymreig ac un Seisonig. Ond ni fynai boneddigion Abertawy ychwaith mo hono ef, a'i athrawiaeth, a'i ddiwygiadau. Aeth oddiyno i Langranog yn Sir Aberteifi; ond oblegid yr un achos eto, ni bu yno ond deufis. Wrth weled fod y drws yn cael ei gau yn erbyn ei weinidogaeth yn yr Eglwys Sefydledig, yn y flwyddyn 1746 ymunodd â'r Methodistiaid, pan nad oedd ond 24 mlwydd oed, a bu yn llafurio yn eu mysg gydag