egni a llwyddiant mawr am agos hanner can' mlynedd.
Fel pregethwr yr oedd mewn un peth yn rhagori ar y rhan fwyaf o'i gydoeswyr-sef mewn llafur i gyfansoddi ei bregethau yn gyflawn cyn eu traddodi. Os byddai eraill yn rhagori mewn doniau, ac mewn hwyl, byddai ganddo ef bregeth dda bob amser. Yr oedd hefyd yn gweithio yn galed-yn teithio yn barhâus, yn cymeryd y fantais ar bob cyfleusdra i bregethu yr efengyl i'r bobl, ac yn barod i feiddio pob peryglon a ddelai yn ei ffordd. Ni ddyoddefodd neb yn ei oes fwy o erlidiau a blinderau. Aml y gadawai y fan y pregethai wedi ei daenellu â'i waed fel â gwlaw. "Nid gormod fyddai dyweyd iddo wynebu mwy o beryglon, dyoddef mwy o galedi, ac arloesi mwy ar Gymru, na neb o'i frodyr urddedig." Yn ei gysylltiad â'r wasg, gwnaeth fwy er diwyllio llênyddiaeth grefyddol Gymreig na neb yn y ddeu-nawfed ganrif. Cyhoeddodd ei "Fibl Teuluaidd," gyda sylwadau ar bob pennod, a chyfeiriadau ar ymyl y ddalen, yn y flwyddyn 1770, a dyma yr Esboniad Cymreig cyntaf erioed ar y Bibl. Cymaint oedd awydd y wlad am dano, fel yr oedd y trydydd argraphiad yn ymyl ei orphen cyn marwolaeth