Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/109

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mr. Williams, a'r tri argraphiad yn cynnwys o ddeuddeg i bumtheg mil o gopïau. Ac yn mhen tair blynedd ar ol ymddangosiad yr... argraphiad cyntaf o'r Bibl, cyhoeddodd y "Mynegair Ysgrythyrol;" a chan mai hwn eto oedd y llyfr cyntaf o'r fath yn yr iaith Gymraeg, rhaid ei fod wedi costio llafur dirfawr iddo. Yn 1790 cyhoeddodd argraphiad o bedair mil o Fibl bychan Canne, yr hon anturiaeth a drodd yn golledus iawn iddo. Cyfieithiodd amryw lyfrau defnyddiol eraill o'r Saesoneg.

[ocr errors] Cododd dadl rhyngddo a'i frodyr ar bwnc o athrawiaeth cysylltiedig â Pherson Crist, barodd lawer o flinder, ac iddynt dori eu cysylliad â'u gilydd. Yr oedd capel Heol y Dwr, Caerfyrddin, wedi ei godi ar dir Peter Williams; cadwodd feddiant o'r capel hwnw, i fod yn faes llafur hyd ddydd ei farwolaeth. Bu farw Awst 8fed, 1796, yn ei 75ain mlwydd o'i oedran, a chladdwyd ef yn Llandyfeiliog. Yr ydym wedi rhoddi yma yn fyr, brif ddygwyddiadau un o'r dynion mwyaf defnyddiol i Gymru o'r holl feibion a fagodd. Gwir ddywedodd ei Farwnadydd :—

Tra fo Cymru yn medru darllen,
Am dy enw fe fydd sôn,
A thra argraph-wasg a phapyr,
Nid anghofir am dy bo'n;