Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/125

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

daioni Duw yn nhrefn iachawdwriaeth, fel nas gallai ymatal rhag torri allan i waeddi, "Oh, ddyfnder golud daioni a gwybodaeth Duw!" Pan ofynodd perthynas iddo beth oedd y ffordd feraf a sicraf i gyrhaedd gwybodaeth wirioneddol o'r grefydd Gristionogol, ei ateb ydoedd," Astudied yr Ysgrythyrau Sanctaidd, yn enwedig yn y Testament Newydd. Mae hwn yn cynwys geiriau bywyd tragywyddol. Y mae ganddo Dduw yn awdwr, iachawdwriaeth yn amcan, a gwirionedd heb ddim cymysgedd o gyfeiliornad yn foddion."

Mae y Bibl yn cyfranu rhyw fath o nerth i gymdeithas, neu wladwriaeth, cyffelyb i'r hyn y mae yn roddi i berson unigol. Mae yn aileni gwledydd, ac yn rhoddi math o fywyd tragywyddol iddynt. Mae ei fywioldeb a'i nerth yn treiddio i'w sefydliadau a'u harferion, yn eu puro o'r gwraidd ac yn rhoddi sefydlogrwydd iddynt. Y Bibl sydd wedi codi Prydain i'w sefyllfa uchel yn mysg teyrnasoedd y ddaiar.

Pan dalodd pennaeth o Affrica ymweliad â'r wlad hon amryw flynyddoedd yn ol, synwyd ef yn fawr, a gofynodd i'r Frenines. "Beth oedd y dirgelwch am lwyddiant ei theyrnas ?" Estynodd Victoria Fibl iddo, ac atebodd, "Y lle y mae hwn wedi gael yn