esiamplau er dangos ei ddylanwad rhyfeddol i oleuo y meddwl, a sancteiddio y galon. Cafwyd yn diweddar gan ddyn oedd wedi arfer byw yn ddyeithr i'r Bibl addaw eistedd am awr bob hwyr gyda'i wraig ar yr aelwyd i ddarllen cyfran o hono. Yn mhen rhai dyddiau, safodd ar ganol y darllen, trodd at ei wraig, a dywedodd, "Wraig, os yw y llyfr hwn yn wir, yr ydym ni yn mhell o'n lle."
Rhyw noswaith, ychydig ar ol hyn, dywedodd eilwaith, "Wraig, os yw y llyfr hwn yn wir, yr ydym ni yn golledig." Yr oedd wedi ei lyncu i fyny erbyn hyn, gan gynwysiad y llyfr dwyfol; ac un noswaith, cododd ei ben o'r llyfr, a dywedodd wrth ei wraig gyda threm a thôn obeithiol, "Wraig, os yw y llyfr hwn yn wir, gallwn gael ein hachub!" Bu y darlleniad yma dan fendith yr Arglwydd yn foddion dychweliad y gŵr a'r wraig, a gwnaeth fywyd oedd o'r blaen yn hunanol a diffrwyth, yn sanctaidd a defnyddiol. A'r peth a wnaeth ar y ddau hyn, y mae wedi ei wneyd ar filoedd, ac yn ei wneyd yn barhaus.
Treuliodd y meddyliwr galluog, a'r athronydd enwog, John Locke, y pedair blynedd ar ddeg olaf o'i fywyd i astudio y Bibl; teimlai y fath fawredd yn y datguddiad o ddoethineb a