Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/123

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oruchel a gwirionedd y Bibl. Beth bynag fyn dynion ddyweyd am dano; o ba le bynag y daeth; pwy bynag ydyw ei awdwr; mae yn ffaith mai y dynion fu byw agosaf at y Bibl arweiniodd y bywyd goreu welodd y byd erioed. Edrychwch ar dduwiolion y Bibl; ar apostolion Iesu Grist; ar hên dadau yr Eglwys Gristionogol; ac ar ddiwygwyr mawr y gwahanol oesau; dynion wedi eu gwneyd gan y Bibl oeddent. Nid yw yn debyg y buasai enw Luther yn hysbys i'r byd, oni bai iddo daro wrth y Bibl hwnw ar astell lychlyd y mynachdy. Y Bibl hwnw gwnaeth ef yn Luther.

Edrycher ar fywyd hên ddiwygwyr Cymru, fu yn arloesi ein gwlad o'n blaen ni, a'r rhai yr ydym ni wedi myned i mewn i'w llafur hwynt. Dynion yn credu y Bibl oeddent. Dynion wedi eu gwneyd―nid gan addysg, na llyfrau, na manteision cymdeithas, ond gan y Bibl. Dynion a Gair Duw wedi suddo i'w calon. Biblau byw oeddent yn cyniwair trwy y wlad, a'u dylanwad yn trydanu calonau difater, yn goleuo tywyllwch y bobloedd, ac yn gwasgar perarogl bywyd sanctaidd y ffordd y rhodient, sydd yn byw ac yn parhau yn dragywydd.

Mae hanes pob cenedl a gradd yn llawn