Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/122

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

lanwada fel lefain sanctaidd ar bob gallu yn y meddwl, ac ar bob teimlad yn y galon. Cyfoethoga y côf; dyrchafa y rheswm; bywioga y dychymyg; cyfarwydda y farn; cynhyrfa y serchiadau; llywodraetha y nwydau; adfywia y gydwybod; nertha yr ewyllys; enyna fflam sanctaidd ffydd, gobaith, a chariad; pura, dyrchafa, a sancteiddia yr holl ddyn, a chyfyd ef i undeb bywiol â Duw. Mae ganddo oleuni i'r dall, nerth i'r diffygiol, bwyd i'r newynog, a diod i'r sychedig; mae ganddo gynghor mewn gorchymyn neu siampl i bob sefyllfa mewn bywyd, cysur yn mhob trallod, a balm i bob clwyf. O holl lyfrau y byd y Bibl yw yr unig un nad ydym byth yn blino arno, ond yn dyfod i'w edmygu a'i garu fwyfwy po fwyaf yr ymarferwn ag ef. Fel yr adamant, tafla ei lewyrch i bob cyfeiriad; fel y ffagl, po mwyaf yr ysgydwir hi, mwyaf y mae yn goleuo; fel y llysieuyn, po mwyaf y gwesgir ef, hyfrytaf yw y perarogl.[1] Dyma ddiwygiwr mawr y byd, yr hwn sydd i uniawnu gwyrni pechod, ac i ddwyn oddiamgylch adferiad pob peth.

Nid oes dim yn abl cynyrchu cymeriad mor nerthol, cymhelliadau mor bur, a bywyd mor

  1. Dr. Schaff.