Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/121

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ymdeimlad; cynwysa fywgraphiad ysprydol pob calon ddynol; mae yn gyfaddas i bob dosbarth o gymdeithas, fel y gellid ei ddarllen gyda'r un dyddordeb gan y brenin a'r cardotyn, gan yr athronydd a chan y plentyn. Mae mor gyffredinol a dynoliaeth ei hun, ac yn ymestyn y tu hwnt i derfynau amser i diriogaethau diderfyn tragywyddoldeb. Mae y cyfuniad digyffelyb yma o ragoriaethau dynol, ar unwaith yn awgrymu ei nodwedd a'i darddiad dwyfol, fel y mae oll-berffeithrwydd dynoliaeth Crist yn brawf o'i Dduwdod.

Ond dylid cadw mewn côf o hyd mai llyfr crefydd yw y Bibl. Efe sydd yn dysgu yr unig grefydd wirioneddol, gyffredinol, yr hon sydd i lyncu i fyny iddi ei hun yn y diwedd holl grefyddau y byd. Llefara wrthym ar y pynciau uchaf, ardderchocaf, a phwysicaf a all byth gael ein sylw, a hyny gydag awdurdod orchfygol ac anwrthwynebol. Mae yn medru dysgu, adeiladu, rhybuddio, dychrynu, tawelu, a chalonogi, mewn modd na fedr yr un llyfr arall ei ddynwared. Gafaela yn nyfnderoedd mwygaf dirgelaidd cyfansoddiad rhesymol a moesol dyn; treiddia fel cleddyf llym daufiniog hyd wahaniad yr enaid a'r yspryd, a barna feddyliau a bwriadau y galon. Dy-