hunan all egluro holl nerth a dylanwad y Bibl i buro, gwareiddio, a bendithio.
Wrth edrych arno yn unig fel cyfansoddiad dynol, mae y Bibl yn llyfr rhyfeddol yn llyfr ar ben ei hun; ïe, yn llyfr y llyfrau. Nis gallai holl lyfrgelloedd y byd, mewn duwinyddiaeth, athroniaeth, hanesiaeth a barddoniaeth, fforddio defnyddiau ddigon i wneyd y fath drysor cyfoethog o hufen athrylith, doethineb, a phrofiad dynol. Mae yn cynwys gweithiau oddeutu deugain o awduron, a'r rhai hyny yn perthyn i bob cylch o gymdeithas, o orsedd y brenin hyd gwch y pysgotwr; ysgrifenwyd ef yn ngwahanol oesau cyfnod hir o un cant ar bumtheg o flynyddau, ar lanau y Nilus yn yr Aipht, yn anialwch Arabia, yn ngwlad yr Addewid, yn Asia Leiaf, yn Groeg goethedig, ac yn Rhufain ymerodrol ; mae yn dechreu gyda'r greadigaeth, ac yn gorphen gyda'r gogoneddiad yn y diwedd, wedi desgrifio yn y cyfwng rhyngddynt, holl gamrau datguddiad dwyfol, a dadblygiad ysprydol dyn. Defnyddia bob ffurf o gyfansoddiad llenyddol ; cwyd i fyny i uchder eithaf, a disgyn i ddyfnder dyfnaf dynoliaeth; mesura holl gyflyrau bywyd; mae yn gynefin â phob trallod a gwae; cyffyrdda â phob llinyn o gyd-