Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/119

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

awr yn barod i'w gosod i fyny yn y Bala, er coffadwriaeth am dano.

PENNOD X.

GWERTH A DYLANWAD Y BIBL.

GODDEFED y darllenydd i ni, cyn rhoddi y pin heibio, ei adgoffa o werth dirfawr y Bibl i'r byd, ac o'i ddylanwad iachusol a phur ar feddwl ei efrydydd yn bersonol, ac ar gymdeithas yn gyffredinol. Gormod gorchwyl ydyw rhoddi hanes y Bibl Cymraeg o ran ei ddylanwad i wareiddio y genedl, i ymlid ymaith ofergoeliaeth ac arferion annuwiol, i buro moesau, i sancteiddio y galon, i sefydlu heddwch a thangnefedd, ac i gynal eneidiau dan feichiau trallod a gorthrymder y bywyd hwn.

Llyfr y bywyd yw y Bibl, wedi ei ysgrifenu i addysgu a hyfforddi pob oes a chenedl. Nid oes neb ag sydd wedi canfod ei ogoniant, a theimlo ei nerth a'i ddylanwad, a gyfnewidiai y gyfrol hon am holl lyfrau a llenyddiaeth y byd. Nid oes ond y byd tragywyddol ei

hunan all egluro holl nerth a dylanwad y Bibl i buro, gwareiddio, a bendithio.

Wrth edrych arno yn unig fel cyfansoddiad dynol, mae y Bibl yn llyfr rhyfeddol yn llyfr ar ben ei hun; ïe, yn llyfr y llyfrau. Nis gallai holl lyfrgelloedd y byd, mewn duwinyddiaeth, athroniaeth, hanesiaeth a barddoniaeth, fforddio defnyddiau ddigon i wneyd y fath drysor cyfoethog o hufen athrylith, doethineb, a phrofiad dynol. Mae yn cynwys gweithiau oddeutu deugain o awduron, a'r rhai hyny yn perthyn i bob cylch o gymdeithas, o orsedd y brenin hyd gwch y pysgotwr; ysgrifenwyd ef yn ngwahanol oesau cyfnod hir o un cant ar bumtheg o flynyddau, ar lanau y Nilus yn yr Aipht, yn anialwch Arabia, yn ngwlad yr Addewid, yn Asia Leiaf, yn Groeg goethedig, ac yn Rhufain ymerodrol; mae yn dechreu gyda'r greadigaeth, ac yn gorphen gyda'r gogoneddiad yn y diwedd, wedi desgrifio yn y cyfwng rhyngddynt, holl gamrau datguddiad dwyfol, a dadblygiad ysprydol dyn. Defnyddia bob ffurf o gyfansoddiad llenyddol; cwyd i fyny i uchder eithaf, a disgyn i ddyfnder dyfnaf dynoliaeth; mesura holl gyflyrau bywyd; mae yn gynefin â phob trallod a gwae; cyffyrdda â phob llinyn o gyd