Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/118

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

7fed o Fawrth, 1804, ymgyfarfu tua thri chant o ddynion difrifol perthynol i'r gwahanol enwadau crefyddol yn y "London Tavern," ac yno y ffurfiwyd y FIBL GYMDEITHAS FRYTANAIDD A THRAMOR, yr hon sydd wedi cyflawni amcan ei sefydliad uwchlaw clod.

Yn y flwyddyn 1799, wrth deithio dros fynydd Mignaint, ymaflodd oerfel yn mawd llaw aswy Mr. Charles, yr hwn a waethygodd gymaint fel y bu ei fywyd yn y perygl mwyaf, a gorfu i'r meddygon dori y bawd ymaith. Cynaliwyd cyfarfod gweddi i erfyn am i'r Arglwydd arbed ei fywyd. Yn y cyfarfod hwnw, gweddiai un Richard Owen, gan gyfeirio at Hezeciah, am i'r Arglwydd estyn pumtheg mlynedd yn ychwanegol i Charles: "Oni roddi di bumtheg mlynedd, o ein Duw, er mwyn dy eglwys a'th achos!" Bu son mawr am y weddi hono. Dywedodd Mr. Charles wrth y gŵr ei hun, tua blwyddyn cyn ei farwolaeth, "Wel, Richard Owen, mae y pumtheg mlynedd agos i fyny!" A dim ond wythnos oedd yn fyr o'r pumtheg mlynedd, pan fu farw, Hydref 5ed, 1814, wythnos cyn ei fod yn 59 mlwydd oed. Claddwyd ef yn mynwent fechan eglwys Beuno, yn Llanycil, yn ymyl Llyn Tegid, filldir o'r Bala. Mae cofgolofn ardderchog yn