Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/117

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Wel, Dafydd Edward, onid yw yn beth blin iawn, fod y fath brinder Biblau yn y wlad, a bod geneth fel hon yn gorfod cerdded wyth neu ddeg milldir ar ugain i geisio cael Bibl? Os oes rhywbeth i'w wneyd tuag at lenwi y diffyg hwn, ni orphwysaf nes ei gyflawni."

Mae y Bibl hwnw yn awr ar gael, wedi ei anfon erbyn hyn, debygem, i lyfrgell Coleg Newydd y Bala. Bibl wythplyg tew ydoedd, wedi ei argraphu yn Rhydychain, 1799, ac y mae enw "Mari Jones, Cwrt," arno, yr hon a adroddodd yr holl hanes, ychydig amser yn ol, ar éi gwely angau.

Yn Rhagfyr, 1802, aeth Mr. Charles i Lundain, a chafodd gyfleusdra i ddodi anghen Cymru am Fiblau o flaen Pwyllgor Cymdeithas y Traethodau Crefyddol; gwnaeth ei ardroddiad argraph ddwys iawn ar feddyliau y pwyllgor hwnw, ac yn enwedig ar feddwl y Parch. Joseph Hughes, gweinidog y Bedyddwyr, ac un o ysgrifenyddion y Gymdeithas hono, yr hwn a atebodd, "Os gellid ffurfio Cymdeithas i gyflenwi Cymru â'r Bibl, paham nad ellid i ddiwallu y deyrnas yn gyffredinol, a'r byd?" Cymerwyd y pwnc i fyny, ac ar y