Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/116

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ganddi yr un Bibl, ond yr oedd un mewn tŷ perthynas iddi, o fewn dwy filldir i'w chartref, ac elai yno yn fynych i'w ddarllen. Cynyddodd ei syched am Air Duw mor fawr, fel y penderfynodd ddyfeisio i gael Bibl iddi ei hun. Dechreuodd ystorio pob ceiniog ddelai i'w llaw. Wedi casglu swm, cynghorwyd hi i geisio cael Bibl trwy Mr. Charles o'r Bala. Un diwrnod, cychwynodd tua'r Bala, yr holl ffordd, lawn 28ain milldir, ar ei thraed; ond erbyn cyrhaedd yno, yr oedd Mr. Charles wedi myned i'w wely. Cafodd lety noson gydag un Dafydd Edward, diacon gyda'r Methodistiaid, ac aeth gyda hi bore dranoeth at Mr. Charles. Wedi adrodd y neges, dywedodd Mr. Charles: "Mae yn flin iawn genyf weled y ferch yn gorfod dyfod yr holl bellder hwn, ond yr wyf yn ofni, yn wir, nas gallaf gael Bibl iddi, oblegyd mae Biblau yn brinion iawn."

Disgynodd ei eiriau fel taran ar yr eneth, a thorodd allan i wylo yn hidl. Tynodd dagrau Mari ddagrau i ruddiau y gweinidog tyner galon; ac wedi mynyd o ystyriaeth, dywedodd, "Chwi gewch Fibl!" Cyrhaeddodd Fibl iddi, talodd hithau yr arian iddo, a throdd ei dagrau galar ar unwaith yn ddagrau gorfoledd, a gwnaeth i Mr. Charles a'r diacon gydwylo â hi mewn gorfoledd. Dywedodd Mr. Charles, gan droi at y diacon: