Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/115

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ohebiaethau cyson yn mlaen â phrif weinidogion a llafurwyr Cristionogol yn Lloegr, Ysgotland, ac Iwerddon. Ac yn nghanol yr holl orchwylion hyn, a lliaws nad ydym wedi eu henwi, mynodd amser i ysgrifenu ei "Drysorfa Ysprydol," ei "Eiriadur Ysgrythyrol" a'r " Hyfforddwr," &c., y rhai fu o gymaint gwasanaeth i Gymru, ag ydynt, i fesur mawr, yn cadw y gŵr enwog yn fendith arosol yn mysg ein cenedl.

Mae yn draddodiad cyffredin mai dagrau geneth yn wylo am Fibl gynhyrfodd Mr. Charles i ddyfeisio ffordd i gael Biblau at wasanaeth y werin. Cawsom hanesyn ychydig flynyddoedd yn ol, trwy law ein cyfaill, Mr. R. O. Rees, Dolgellau, sydd yn un tebyg iawn i'r un a ardroddir fel y tarddiad cyntaf chwyddodd yn y diwedd i sefydliad y Bibl Gymdeithas. Ychydig amser yn ol bu farw hên ŵr o'r enw Lewis William, Llanfachreth, ger Dolgellau, yr hwn a fu, yn ei ddyddiau boreuol, yn cadw ysgol dan Mr. Charles. Yn mysg y plant a fynychai ei ysgol yr oedd un Mari Jones, Cwrt, Aberganolwyn, yn ngodrau Sir Feirionydd, yr hon oedd ar y pryd hwnw o 14eg i 15eg oed. Dysgodd ddarllen yn fuan, a dechreuodd ei mheddwl anesmwytho yn nghylch achubiaeth ei henaid. Nid oedd