Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/114

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Heblaw ei lafur diball i bregethu yr efengyl yn Nghymru a Lloegr, cymerodd achos yr ysgol Sabbothol yn achos iddo ei hun; rhoddodd ffurf newydd iddi, rhagor y peth ydoedd yn Lloegr, trwy ei gwneyd yn foddion addysg grefyddol i ddynion mewn oed, yn gystal a moddion i ddysgu darllen i blant ac eraill. Efe ddechreuodd gasglu gwahanol ysgolion yn nghyd, a'u harholi yn gyhoeddus. Nid oes dim tu yma i ddatguddiad y dydd mawr a ddengys y llafur a gymerodd, a'r rhwystrau a gafodd, cyn gosod yr ysgol Sabbothol yn Nghymru ar y safle dymunol y gwelodd hi cyn iddo farw.

Heblaw yr ysgol Sul, sefydlodd lawer o ysgolion dyddiol cylchynol, i symud o ardal i ardal, er cynorthwyo i ddysgu darllen, a byddai eu gofal a'u cyfrifoldeb ar ei ysgwydd ef. Bu yn foddion i sefydlu ysgolion ar ffurf y rhai Cymreig hefyd yn ynysoedd ac ucheldiroedd Ysgotland. Bu gyda thri eraill, ar gais y Gymdeithas Wyddelig, ar daith trwy'r Iwerddon, er sefydlu moddion cenadol i'r wlad hono. Bu yn brif offeryn cychwyniad y Fibl Gymdeithas, yn y flwyddyn 1804. Arolygodd a diwygiodd argraphiadau o'r Bibl a gyhoeddwyd gan y Gymdeithas hono. Cymaliai