ffurfiau cyffredin, a gwaharddwyd yr eglwysi iddo. Bu yn hir yn dysgwyl am ddrws agored o rywle, a'i galon yn llosgi mewn awydd am waith, gymaint fel y cynygiai wasanaethu yn rhad.
Wedi hir aros, heb obaith, penderfynodd ymuno â'r Methodistiaid. Yr oedd hyn yn 1785, pan yn 30ain oed. Bellach cafoddd ei fywyd gyfleusdra i ymddadblygu, a buan y daeth gwerth y dyn yn hysbys i'r wlad. Pan bregethodd gyntaf yn Llangeitho, dywedodd Rowlands, "Rhodd yr Arglwydd i'r Gogledd yw Charles." Profodd ei eiriau yn wirionedd tu hwnt i ddysgwyliad neb. Mae ei ddylanwad yn fyw heddyw, nid yn unig yn y Gogledd ond trwy Gymru oll, ac yn mhell tu hwnt i'w therfynau.
Cymerodd Mr. Charles gyflwr ysprydol y wlad at ei galon, ac ymroddodd fel dyn Duw i gyflenwi ei diffygion. Dyn anarferol ydoedd, nad oes gan y wlad nemawr o'i fath i ymffrostio ynddynt. Dyn llawn o yspryd gwir apostolaidd. Anhawdd enwi neb arall roddodd gychwyniad, neu ysgogiad effeithiol yn mlaen, i gynifer o sefydliadau mor bwysig ac anfarwol. Hauwr sefydliadau ydoedd, fyddant byw hyd ddiwedd y byd.