Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/112

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ychain. Trwy ymdrech galed y gallodd gynal ei hun yno. Buasai wedi gorfod gadael y lle, oni bai i Ragluniaeth agor calonau ychydig o gyfeillion i'w gynorthwyo. Derbyniodd urdd diacon i bregethu yn Rhydychain, yn 1778, a threfnodd i fyned i wasanaethu fel curad yn Ngwlad yr Haf. Cyn myned, talodd ymweliad â'r Bala, ac aeth ef ar daith, gyda'i gyfaill, y Parch S. Lloyd, offeiriad duwiol a chyfoethog, trwy ranau o Ogledd a Deheudir Cymru, a galwasant ar eu ffordd i wrando Rowlands Llangeitho.

Wedi gorphen y daith hon aeth at y guradiaeth a nodwyd, ac yn mhen rhai misoedd. enillodd ei B.A. yn Rhydychain. Ar ei ymweliad â'r Bala, daeth i gydnabyddiaeth â boneddiges ieuanc o'r enw Miss Jones, yr hon oedd gyda'i mham yn cadw prif siop y dref; ac yn Awst 1783, ymunodd â hi mewn "glân briodas," a dyna fu yn achlysur symudiad Mr. Charles i'r Bala i fyw.

Bu am ddwy flynedd wedi ymsefydlu yn, y Bala yn gwasanaethu fel curad yn Llanymowddwy a Shawbury, ond yr oeddent yn mhell iawn, a'r ffyrdd yn anhygyrch. Daeth achwyniadau hefyd yn ei erbyn, ei fod yn holi plant yn yr eglwysi, ac yn myned ar draws y