Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/127

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

feddiaeth anllygredig, y goron anniflanedig, a'r deyrnas dragywyddol. Tydi sydd wedi crogi lampau tanllyd i nf yn nhynel tywyll cysgod angau, a'i droi yn oleu ddydd. Tydi gynaliodd ein tadau with y stanc a'r ffagodau, ac a barodd i'w cân esgyn gyda'r fflam i'r nefoedd. Tydi fu yn gosod dy adnodau gwerthfawr yn glustog dan benau ein mamau i'w dal uwchlaw y dòn wrth groesi yr hên Iorddonen. Wrth nerth dwyfol yr hên adnod y buont yn hongian pan oedd y byd yn colli dan eu gwadnau, a châr a chyfaill yn cael eu gyru yn mhell. Ië, dywedwn eto, Hên Fibl anwyl, bydd fyw byth, yn yr enaid o fewn, ac yn y byd oddiallan; bydded dy law yn ngwar dy holl elynion; darostwng hwynt â dymchweliad tragywyddol ! Llywodraetha o for i for, ac na fydded diwedd ar dy freniniaeth mwy.

PENILLION.

O Arglwydd da, argrapha
Dy wirioneddau gwiw,
Yn rymus ar fy meddwl
I aros tra f'wyf byw ;
Mwy parchus boed dy ddeddfau,
Mwy anwyl nag erioed;
Yn gysur i fy nghalon,
Yn llusern i fy nhroed.