Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mae y Calendar hefyd wedi ei osod i mewn ar ei ddechreu, a chyflwyniad yn Saesneg, "I'r dra Rinweddol ac Ardderchog Dywysoges Elisabeth," &c., gan y prif gyfieithydd, ac epistol Cymraeg maith at ei gydwladwyr gan Dr. Davies, Esgob Tyddewi. Mae y copi o'r argraphiad hwn sydd yn y British Museum mewn cyflwr rhagorol. Ar ei ddiwedd, heblaw y pethau a nodwyd, ceir "TABUL Y GAHEL yr Epistole a'r Euangelon y ddarllenir yn yr Eglwys trwy'r blwyddyn, &c. Mae cerflun, cyffredin iawn o ran gwaith celfyddyd, yn egluro“ Mat. 13, f." (ad. 44, debygem). Darlun o ddynion yn bargeinio ydyw, ac odditano, mewn llythyrenau cochion,

"Gwerthwch a vedrwch o vudd
(Llyma'r man lle mae'r modd
Ac mewn ban angen ni bydd)
I gael y perl goel hap wedd."

'Mae rhai adnodau yma a thraw yn darllen yn drwsgl a chlogyrnaidd, a llawer o eiriau anneallus ac annghymreigaidd yn cael eu defnyddio. Mae eraill yn darllen yn llithrig a naturiol. Dyma yr adnod gyntaf yn mhennod olaf y Testament:—"Ac ef y ddangosodd i mi afon pur o dwr y bywyd yn dysclaero mal y crystal, yn dyfod allau o eisteddle Dyw a'r