Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Oen." Hysbysir fod y cyfieithiad wedi ei wneyd gyda gofal a ffyddlondeb o'r Groeg a'r Lladin, a bod arolygiad yr oll, ac yn enwedig ei gyhoeddiad, yn cael ei wneyd gan William Salesbury, "trwy bennodiad," meddai ef, "ein tra gwyliadwrus Fugeiliaid, Esgobion Cymru."

PENNOD V.

BIBL DR. MORGAN.

Ni chafwyd argraphiad o'r holl Fibl Cymraeg, er gwaethaf gorchymynion a dirwyon Seneddol, am fwy nag ugain mlynedd ar ol cyhoeddi y Testament Newydd. Ac nid yw yn debyg fod un cysylltiad rhwng y gorchymyn Seneddol a aeth allan, a chwblhâd y gwaith gan Dr. Morgan. Beth bynag, yn y flwyddyn gofiadwy, 1588, cyhoeddwyd yn Llundain, yn gyfrol fawr unplyg, "Y Bibl Cysegrlân, sef yr Hên Destament a'r Newydd," a chafodd Cymru y trysor penaf ddaeth erioed i'w rhan, sef y Datguddiad Dwyfol yn ei hiaith ei hunan. Ficer Llanrhaiadr yn Mochnant, Sir Ddinbych, ydoedd y Dr. William Morgan hwn. Wedi