hyny, yn 1595, gwnaed ef yn Esgob Llandâf; ac yn 1601, yn Esgob Llanelwy, a bu farw yn 1604.
Cyfieithodd y gŵr da hwn, neu bu ganddo y llaw flaenaf mewn cyfieithu, yr oll o'r Hên Destament, a'r Apocrypha, o'r iaith wreiddiol i'r iaith Gymraeg, diwygiodd y cyfieithiad blaenorol o'r Testament Newydd, a dygodd allan argraphiad cyflawn a destlus o'r holl Fibl, wedi ei argraphu yn Llundain gan Christopher a Robert Barker, yn y flwyddyn 1588.
Yr oedd y ddau Barker yn byw dan arwydd "Pen-y-Teigr," yn Paternoster Row, ac yn cadw maelfa yn Mynwent St. Paul, dan arwydd y "Ceiliog Rhedyn." Yr oeddent yn deilliaw o deulu cyfrifol, ac wedi cael yr hawlfraint i argraphu yr ysgrythyrau gan y Frenines Elisabeth. Adnewyddodd y Brenin Iago yr hawlfraint i Christopher, mab Robert Barker. Dywedir fod Robert Barker wedi talu tair mil o bunau am ddiwygio y cyfieithiad Seisnig o'r Bibl. Ond er hyny yr oedd mor wallus fel y cafodd ef, a'i gydymaith, Martin Lucas, eu dirwyo i dair mil o bunau, oherwydd y gwallau.
Pan orphenwyd y Bibl Cymraeg, anrheg-