Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wyd Deon a Glwysgor Westminster â chopi o'r gwaith, am y caredigrwydd a'r cymhorth a dderbyniodd y cyfieithydd oddiar ddwylaw y clerigwyr dysgedig, ac yn enwedig y Deon, Dr. Gabriel Goodman. Mae y copi hwnw hyd heddyw yn eu llyfrgell. Mae wedi ei argraphu yn yr hên lythyren ddu Frytanaidd. Mae ynddo gynwysiad o flaen pob pennod, a'r pennodau wedi eu rhanu yn adnodau. Mae peth cyfeiriadau ar ymyl y dail, llythyr Lladin o gyflwyniad i'r Frenines Elisabeth ar ei ddechreu, a'r Calendar ynddo; ac y mae wedi ei rífnodi wrth y dalenau, ac nid y tu-dalenau. Nifer y dalenau ynddo ydyw 555.

Nid oes gwybodaeth beth gymhellodd Dr. Morgan i ymgymeryd â'r gorchwyl pwysig o gyfieithu yr Ysgrythyrau. Nid yw yn son ei hun, ac nid yw yn debygol ychwaith iddo gael ei anog gan na brenines nac esgob. Y tebygolrwydd yw iddo ymgymeryd â'r gorchwyl o hono ei hun, oddiar deimlad o'r anghen mawr, a'r galw oedd am dano. Oblegyd yr oedd galw mawr am y Bibl, er fod yr yspryd Pabyddol yn gryf, ac yn groes iawn i roddi y Bibl yn nwylaw y bobl gyffredin. Yr yspryd Pabyddol hwn, yn ddiau,