Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hyn ei hun yn ei lythyr cyflwynol i'r Frenines Elisabeth. "Ac wedi ei ddechreu," meddai yn hwnw, "diffygiaswn o ran anhawsder y gwaith a mawredd y gost, a dygaswn bum llyfr Moses yn unig at yr argraphwasg, oni buasai i'r Parch. John Whitgift, Archesgob Caergaint, achleswr dysgeidiaeth, amddiffynwr gwirionedd, a thirion wrth ein cenedl ni, fy nghynorthwyo, fy nghymhorth â'i haelioni, a'i awdurdod, ac a'i gynghor, i fyned yn mlaen. Yn ol ei esiampl ef, daeth gwŷr da eraill yn gynorthwyol i mi, sef Esgobion Llanelwy a Bangor (Dr. Hughes a Dr. Bellot, mae'n debyg), Dr. Dafydd Powell, Mr. Gabriel Goodman, Deon Westminster, Mr. Edmund Prys, Archddiacon Meirionydd, Mr. Richard Vaughan, Periglor Lutterworth, wedi hyny Esgob Bangor, Caerlleon, a Llundain."

Mae Wood yn dyweyd iddo gael ei gynorthwyo gan Dr. Richard Parry, wedi hyny, Esgob Llanelwy; ond barna Dr. Llewelyn mai camsyniad ydyw hyn, wedi codi oddiwrth y rhan gymerodd Parry ddeng mlynedd ar ugain ar ol hyn, mewn dwyn allan ail argraphiad o'r Bibl, gan nad yw Morgan ei hun yn coffa ei enw yn mysg ei gynorthwywyr. Ceisiodd Syr John Wynne, o Wydyr, ger