Llanrwst, ddifrio yr Esgob Morgan o'r anrhydedd o gyfieithu y Bibl, trwy "edliw ei fod yn ei gyfieithiad wedi cael mantais a chynorthwy gweithiau Esgob Davies a W. Salesbury, y rhai a wnaethent ran fawr o hono, ond fod Morgan yn cymeryd yr enw iddo ei hun am y cwbl." Ond nid oes sail i'r dystiolaeth hon. Mae y cyfieithiad ei hun yn ddigon o wrthdystiad iddi. Os defnyddiodd Morgan weithiau y gwŷr enwog a nodwyd, yr oedd ei ddiwygiad arnynt yn cynwys llawn cymaint o lafur, os nid mwy, na phe buasai wedi gwneyd cyfieithiad hollol annybynol arnynt. Yr oedd gwraidd yr edliwiad yma mewn teimlad drwg fu yn ffynu rhwng yr esgob a Syr John yn nghylch y degwm. Mae yn debygol fod Salesbury wedi marw cyn hyn, a bod Dr. Richard Davies wedi marw hefyd. Mae yn sicr fod gan Dr. John Davies law yn Mibl Dr. Morgan, a gallasai fod gan bersonau eraill hefyd, y rhai, oddiar resymau anhysbys i ni, y cadwyd en henwau allan.
Ond am y gwŷr a nodwyd, dywed Morgan iddynt ei gefnogi a'i gynorthwyo. Cafodd fynedfa rydd i'w llyfrgelloedd, ac edrychasant dros ei gyfieithiad, gan ei gywiro a'i ddiwygio. A thra yn Llundain yn arolygu argraphiad