Tudalen:Hanes y Bibl Cymraeg.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fuasai hyny eilwaith lawer mwy na haner cyflenwi yr eglwysi, heb son dim am anghenion yr Anghydffurfwyr, a theuluoedd y wlad yn gyffredin. Ymgymeriad ardderchog oedd eiddo Dr. Morgan; dangosodd wroldeb penderfynol i gwblhau y gorchwyl; cyflwynodd drysor anmhrisiadwy ei werth i'n cenedl geidw ei enw mewn coffadwriaeth anfarwol; eto, wedi iddo ef orphen ei waith pwysig, yr oedd newyn angeuol am Air y bywyd yn llenwi y wlad o gŵr bwy gilydd.

Yr oedd y Testament Newydd fel y cyhoeddwyd yn Mibl Dr. Morgan wedi ei gyfieithu, fel yr hysbyswyd, a'i gyhoeddi gan Salesbury a Davies, ac ni wnaeth Morgan ond ei ddiwygio. Yr oedd Morgan wedi ei ddiwygio eilwaith, ac yr oedd yn barod ganddo i'r wasg pan fu farw yn y flwyddyn 1604. Pa un a oedd yn bwriadu cael argraphiad arall allan o'r holl Fibl, ac os felly, ei gael i gyflenwi anghenion yr eglwysi, neu ei gael at wasanaeth mwy cyffredinol y wlad, nid yw yn hysbys. Nid yw yn hysbys ychwaith pa un a gyhoeddwyd ei gopi diwygiedig ef o'r Testament Newydd ai peidio.